Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Gwasgariad rhywogaethau dŵr croyw ymledol ym Mhrydain

Thomas, John Rhidian 2018. Gwasgariad rhywogaethau dŵr croyw ymledol ym Mhrydain. PhD Thesis, Cardiff University.
Item availability restricted.

[thumbnail of 2018ThomasJRPhD.pdf]
Preview
PDF - Accepted Post-Print Version
Download (2MB) | Preview
[thumbnail of ThomasJR.pdf] PDF - Supplemental Material
Restricted to Repository staff only

Download (283kB)

Abstract

Mae bioamrywiaeth y byd yn wynebu amryw o fygythiadau o achos gweithgareddau anthropogenig megis dinistrio cynefinoedd, gorddefnyddio adnoddau a llygredd. Yn ogystal, bu cyflwyniad rhywogaethau estron i ecosystemau dieithr yn un o brif achosion colled bioamrywiaeth, gan iddynt gystadlu â rhywogaethau cynhenid am adnoddau, lledu heintiau ac achosi niwed strwythurol. Er hyn, nifer bychan o rywogaethau a gyflwynwyd i ecosystem newydd sy'n llwyddo i ymledu. Rhaid iddynt gael eu cludo a'u cyflwyno, ac yna, sefydlu ac ehangu cyn dod yn rywogaethau ymledol llwyddiannus. Effeithia ymddygiad anifeiliaid ar y broses ymledu, yn enwedig wrth iddynt wasgaru, er mae yna diffyg gwybodaeth ar sut all ffactorau biotig ac anfiotig effeithio ar hyn. Yn yr astudiaeth hon, gan ddefnyddio arenâu arbrofol yn y labordy, astudiwyd ymddygiad dau brif grŵp o anifeiliaid ymledol yn nyfroedd croyw Prydain; cimychiaid yr afon a physgod. Darganfuwyd bod rhywogaethau ymledol o gimychiaid yr afon yn fwy tueddol o wasgaru o'u cymharu â rhai cynhenid (Pennod 3). Dangoswyd hefyd bod cimychiaid yr afon beichiog yr un mor dueddol o wasgaru dros y tir â rhai heb wyau; bu potensial uchel i'r unigolion beichiog gyflwyno eu hepil i gynefin newydd, er bod cimychiaid yr afon ifanc yn cyrraedd trothwy maint cyn iddynt wasgaru dros y tir (Pennod 4). Canfyddir bod parasit ymledol yn lleihau tueddiad cimychiaid yr afon ymledol i wasgaru (Pennod 5). Canlyniad nodedig oedd bod tymheredd yn effeithio'n bositif ar allu pysgod ymledol i nofio, ac felly i wasgaru (Pennod 6), er ni chaiff tymheredd effaith sylweddol ar eu rhyngweithiadau â physgod cynhenid (Pennod 7). Fodd bynnag, amlygir defnyddioldeb arsylwadau uniongyrchol rhyngweithiadau rhyng-rywogaethol, a dangoswyd bod maint y corff yn ffactor bwysig i'w ystyried wrth asesu potensial un rhywogaeth i effeithio'n negyddol ar un arall (Pennod 7). Ar y cyfan, caiff y gwaith hwn oblygiadau penodol (gweler Pennod 8) mewn cadwraeth a rheolaeth rhywogaethau ymledol.

Item Type: Thesis (PhD)
Date Type: Submission
Status: Unpublished
Schools: Biosciences
Funders: Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Date of First Compliant Deposit: 24 April 2018
Date of Acceptance: 24 April 2018
Last Modified: 13 Apr 2021 13:40
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/110904

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics