Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Persbectifau amlieithog: paratoi ar gyfer dysgu ieithoedd yn y cwricwlwm newydd i Gymru

Gorrara, Claire ORCID: https://orcid.org/0000-0003-0732-7666, Jenkins, Lucy, Jepson, Eira and Llewelyn Machin, Tallulah 2020. Persbectifau amlieithog: paratoi ar gyfer dysgu ieithoedd yn y cwricwlwm newydd i Gymru. Curriculum Journal 31 (2) , e70-e84. 10.1002/curj.46

Full text not available from this repository.

Abstract

Bydd yr erthygl hon yn edrych ar y lle ar gyfer dysgu ieithoedd yn y Cwricwlwm i Gymru newydd a’r gwerth sydd mewn dull ac ethos amlieithog. Ar ddechrau’r erthygl, amlinellir y cyd‐destun hanesyddol i addysgu ieithoedd tramor modern yn y Deyrnas Unedig. Wedyn trafodir y cyd‐destun i ddysgu ieithoedd yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar strategaeth bum mlynedd Llywodraeth Cymru Dyfodol Byd‐eang ar gyfer ieithoedd tramor modern (2015–2020). Bydd yr erthygl yn gwerthuso llwyddiant y strategaeth ieithoedd hon o ran delio â’r cyfraddau gadael cyn gorffen ar gyfer ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru. Bydd yr erthygl wedyn yn dadansoddi’r rhagdybiaethau am ddysgu ieithoedd yn y Cwricwlwm Drafft i Gymru 2022, a welir ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu sy’n cynnwys y Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol. Bydd yr erthygl hon yn dadlau bod yr ad‐drefnu hwn yn cynnig man cychwyn unigryw ar gyfer creu partneriaeth barhaus, drwy gydweithio rhwng cymunedau addysgu a dysgu ieithoedd sydd wedi bod ar wahân yn hanesyddol. Yn olaf, bydd yr erthygl hon yn rhoi sylw i brosiect mentora ieithoedd tramor modern sy’n enghraifft o ddull amlieithog o ddysgu ieithoedd. Ar y diwedd, bydd yr erthygl hon yn dadlau o blaid ailfeddwl yn uchelgeisiol am y ffordd rydym yn addysgu ieithoedd, yn synio am hynny ac yn ei drysori yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain.

Item Type: Article
Date Type: Publication
Status: Published
Schools: Modern Languages
Language other than English: Welsh
Publisher: Taylor & Francis
ISSN: 0958-5176
Funders: Welsh Government
Last Modified: 07 Nov 2022 11:01
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/134275

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item