Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig

Williams, Huw ORCID: https://orcid.org/0000-0002-7577-8816 2020. Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig. University of Wales Press.

Full text not available from this repository.

Abstract

Dyfal ond dychmygus, caiff Ceridwen ei lluchio i sefyllfa ddirdynnol ym mherfeddion y canolbarth, a hithau a’i mam yn gofalu am ei Gransha yn ei ddyddiau olaf, yn hen dyddyn y teulu. Gyda’r byd yn datgymalu o’u cwmpas ceir cyfle i ddianc i’r dychymyg gyda chymorth Nain, a wnaeth adael casgliad amrywiol o lyfrau pan fu farw i Ceridwen. Trwy’r trysorau hyn y mae Ceridwen yn cwrdd â chyfres o gymeriadau annisgwyl, sydd yn canu am hanesion a syniadau o’r henfyd i’r presennol, ac yn agor drws iddi ar fyd llawn cwestiynau a myfyrdodau ar ei chyflwr hithau, ei chenedl a’r byd tu hwnt. Wrth ddilyn hynt yng nghwmni ei chyfeillion yr hyn a elwir gan Ceridwen yn ‘Ysbryd Morgan’, daw’n hysbys iddi fod gobaith i’w ganfod yng ngwedd bruddglwyfus ei theulu a’i chymdeithas, ond i’w ganfod mae’n rhaid cysylltu gyda’r gorffennol, tra yn dechrau o’r newydd. Nawr, yn y dilyniant yma i Credoau’r Cymry (2016), mae Huw Lloyd Williams yn cyflwyno hanes deallusol o Gymru sy’n trin y seiliau syniadol sydd wedi ysbrydoli adnewyddu parhaol ein diwylliant yn wyneb argyfyngau oesol.

Item Type: Book
Book Type: Authored Book
Date Type: Publication
Status: Published
Schools: English, Communication and Philosophy
Language other than English: Welsh
Publisher: University of Wales Press
ISBN: 9781786834195
Related URLs:
Last Modified: 07 Nov 2022 11:13
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/134891

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item