Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

'Gweld llais a chlywed llun'?: Y berthynas rhwng darlun, y gair a'r darllenydd mewn cylchgronau i blant yn y Gymraeg (1892 - 1930).

Jones, Megan H. 2021. 'Gweld llais a chlywed llun'?: Y berthynas rhwng darlun, y gair a'r darllenydd mewn cylchgronau i blant yn y Gymraeg (1892 - 1930). PhD Thesis, Prifysgol Caerdydd.
Item availability restricted.

[thumbnail of Megan Jones 2021.pdf]
Preview
PDF - Accepted Post-Print Version
Download (15MB) | Preview
[thumbnail of Cardiff University Electronic Publication Form] PDF (Cardiff University Electronic Publication Form) - Supplemental Material
Restricted to Repository staff only

Download (133kB)

Abstract

Yn y traethawd hwn, ffocysir ar y berthynas rhwng darlun, y gair a'r darllenydd mewn pedwar cylchgrawn Cymraeg i blant rhwng 1892 a 1930. Canolbwyntir ar y cylchgronau Cymru'r Plant, Perl y Plant, Trysorfa y Plant a Y Winllan. Eir ati i ateb tri phrif gwestiwn ymchwil sef beth yw'r rheswm dros gynnwys y darluniau yn y cylchgronau, sut y mae'r darluniau'n cael eu defnyddio a sut y mae gair, darlun a darllenydd yn rhyngweithio i greu ystyr? Dadleuir nad unig bwrpas y darluniau yn y cylchgronau yw addurno'r tudalennau a symleiddio'r testun geiriol, ond yn hytrach mae ganddynt swyddogaeth bwysig a llawer mwy cymhleth na hynny. Mae'r berthynas rhwng darlun, gair a darllenydd yn y cylchgronau yn arwyddocaol ac amlhaenog. Yn y bennod gyntaf, cyflwynir y cwestiynau ymchwil, y fethodoleg a'r theorïau sy'n sail i'r ymchwil. Ceir hefyd drosolwg o'r gwaith ymchwil yn y maes a rhywfaint o gefndir y cylchgronau a chefndir llenyddiaeth plant yng Nghymru yn y cyfnod. Ffocws yr ail bennod yw'r darluniau portreadol sy'n ymddangos yn y cylchgronau. Dadansoddir portreadau o arweinwyr crefyddol, ffigurau Prydeinig, menywod, plant, pobl ifanc a phortreadau rhyngwladol. Eir ati yn y drydedd bennod i werthuso'r berthynas rhwng darlun, gair a darllenydd yn yr eitemau storïol, yn cynnwys darluniau sy'n cyd-fynd â straeon byrion, barddoniaeth a straeon darluniadol heb eiriau. Gobeithir y bydd y cysyniadau theoretig a drafodir, y fethodoleg a fabwysiadir a chanfyddiadau'r ymchwil yn cynnig golwg newydd ar ddarluniau a'u perthynas â geiriau a’r darllenydd mewn llenyddiaeth Gymraeg i blant ac yn ysgogi ymchwil pellach yn y maes.

Item Type: Thesis (PhD)
Date Type: Completion
Status: Unpublished
Schools: Welsh
Subjects: P Language and Literature > PB Modern European Languages > PB1001 Celtic languages and literature
P Language and Literature > PN Literature (General)
P Language and Literature > PZ Childrens literature
Language other than English: Welsh
Date of First Compliant Deposit: 22 November 2021
Last Modified: 22 Nov 2021 14:53
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/145631

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics