Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Adolygiad o Waith y Mentrau Iaith, y Cynlluniau Gweithredu Iaith a Chynllun Hybu'r Gymraeg Aman Tawe/A review of the work of Mentrau Iaith, Language Action Plans and the Aman Tawe Language Promotion Scheme

Evas, Jeremy ORCID: https://orcid.org/0000-0002-6650-9083, Williams, Colin, Mac-Giolla Chriost, Diarmait ORCID: https://orcid.org/0000-0001-6368-9691 and Campbell, Cefin 2014. Adolygiad o Waith y Mentrau Iaith, y Cynlluniau Gweithredu Iaith a Chynllun Hybu'r Gymraeg Aman Tawe/A review of the work of Mentrau Iaith, Language Action Plans and the Aman Tawe Language Promotion Scheme. [Technical Report]. Caerdydd/Cardiff: Llywodraeth Cymru/Welsh Government.

[thumbnail of Adroddiad terfynol yr Adolygiad/Review Final Report (English)]
Preview
PDF (Adroddiad terfynol yr Adolygiad/Review Final Report (English)) - Published Version
Download (900kB) | Preview
[thumbnail of Adroddiad terfynol yr Adolygiad/Review Final Report (Welsh)]
Preview
PDF (Adroddiad terfynol yr Adolygiad/Review Final Report (Welsh)) - Published Version
Download (878kB) | Preview

Abstract

Yn mis Mawrth 2013 comisiynwyd Prifysgol Caerdydd gan Lywodraeth Cymru i gynnal Adolygiad annibynnol o waith y Mentrau Iaith, y Cynlluniau Gweithredu Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe (‘y sefydliadau’). Bu’r Brifysgol yn cydweithio gyda Chwmni Sbectrwm Cyf ar hyd y broses ymchwil. Yn gryno, nod yr Adolygiad annibynnol yw llunio adroddiad i Lywodraeth Cymru ynghylch nifer o faterion gan gynnwys: • y dulliau a ddefnyddir gan y sefydliadau i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg; • adnabod yr ystod gyfan o weithgareddau a gynhelir gan y sefydliadau—ac asesu i ba raddau maent yn adlewyrchu anghenion lleol, ac i ba raddau mae’r sefydliadau’n casglu data yn effeithiol mewn ymgais i asesu effaith gweithgareddau; • a yw strwythurau’r sefydliadau’n sicrhau gweithio effeithiol, gweithio mewn partner-iaeth a rhannu arfer da; • faint o botensial sydd i ddatblygu rôl y mentrau ymhellach; • a yw’r mentrau yn gwneud gwaith y dylai eraill fod yn ei wneud (fel awdurdodau lleol); • a yw lefel y cyllid a roddir gan Lywodraeth Cymru yn briodol. Mae’r Adolygiad hwn yn seiliedig ar dystiolaeth a ddarparwyd i’r tîm ymchwil drwy holiaduron, cyfweliadau a dogfennaeth gan y sefydliadau. Ceir 23 Menter Iaith yng Nghymru. Maent wedi tyfu mewn modd organig, mewn gwa-hanol gyd-destunau ieithyddol a daearyddol, yn bennaf ar lefel sirol neu rannol sirol. O’r herwydd ni ellir bellach gyfeirio atynt fel un endid, ond yn hytrach fel casgliad o wahanol weithgareddau a strwythurau a elwir yn Fentrau Iaith. Cryfder amlycaf y math hwn o sef-ydliad yw bod gwreiddiau’r Mentrau Iaith yn ddwfn o fewn y cymunedau. Erbyn hyn, fodd bynnag, nid yw’n deg gofyn iddynt gyflawni’r holl swyddogaethau y mae disgwyl cyffredinol iddynt eu cyflawni. Ni allant fod yn bopeth ieithyddol i bawb. Mae’r cysyniad o’r tri model o gynllunio ieithyddol y mae’r Adolygiad hwn wedi eu hastudio (Mentrau Iaith, Cynlluniau Gweithredu Iaith, Cynllun Datblygu Ardal), hyd y gwelwn, yn unigryw i Gymru. Mae 5 Cynllun Gweithredu Iaith yn weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn wreiddiol, sefydlwyd Cynlluniau Gweithredu Iaith i gydgysylltu ymdrechion hybu ieithyddol mewn sefyllfaoedd trefol lle yr oedd y Gymraeg yn colli tir a lle nad oedd yr egni cymunedol yn ddigonol i gynorthwyo i adfer y Gymraeg. Ceir un Cynllun Datblygu Ardal yng Nghymru, sef Cynllun Hyrwyddo’r Gymraeg Aman Tawe. Fe’i sefydlwyd er mwyn chwilio am fodel newydd o gynllunio cymunedol trawsffiniol (mae’n pontio tair sir) a fyddai’n cynnwys yr holl elfennau cymunedol o fewn y broses adfer iaith gan gynnwys maes addysg, yr economi, ynghyd â chynyddu defnydd o’r iaith ymysg pobl ifanc. ________________________________ In March 2013, Cardiff University was commissioned by the Welsh Government to conduct an independent Review of the work of the Mentrau Iaith, the Language Action Plans and the Aman Tawe Language Promotion Scheme (‘the organisations’). The University worked with Sbectrwm Consultancy throughout the research process. In summary, the aim of the independent Review is to prepare a report for the Welsh Government on a number of matters, including: • the methods used by the organisations to promote and facilitate the use of Welsh; • identifying the whole range of activities conducted by the organisations—and assessing to what extent they reflect local needs, and to what extent the organisations collect data effectively in order to assess the impact of activities; • do the organisations’ structures ensure effective working, partnership working and sharing of good practice; • the potential to further develop the role of the Mentrau; • are the Mentrau doing work that should be done by others (such as local authorities); • is the level of funding provided by the Welsh Government appropriate. This Review is based on evidence provided to the research team through questionnaires, interviews and documentation provided by the organisations. There are 23 Mentrau Iaith in Wales. They have grown organically, in varying linguistic and geographic contexts, primarily on a county or part-county basis. As a result they can no longer be referred to as one entity, but as a collection of activities and structures that are called Mentrau Iaith. The most prominent strength of this type of organisation is the fact that the Mentrau Iaith are rooted in their communities. However, it is no longer fair to expect them to achieve all the functions they are generally expected to achieve. They cannot be all things Welsh language to all people. The concept of three models of language planning studied by this Review (Mentrau Iaith, Language Action Plans, Area Development Scheme), as far as we see, is unique to Wales. Five Language Action Plans are currently operational in Wales. Originally, Language Action Plans were established to coordinate language promotion efforts in urban areas where the Welsh language was losing ground and where community energy wasn’t considered sufficient to revive the language. There is one Area Development Scheme in Wales, the Aman Tawe Language Promotion Scheme. It was established in order to find a new model of cross-border community planning (it spans three counties) which would include all the community elements within the language revival process including the areas of education, economy and increasing the language’s use among young people.

Item Type: Monograph (Technical Report)
Date Type: Publication
Status: Published
Schools: Welsh
Subjects: H Social Sciences > H Social Sciences (General)
P Language and Literature > PB Modern European Languages > PB1001 Celtic languages and literature
Uncontrolled Keywords: mentrau, "Mentrau Iaith", Aman, Tawe, CGI, cynlluniau gweithredu iaith, language action plans, cynllunio corfforaethol, corporate planning, MIC, Mentrau Iaith Cymru, language initiatives, language planning, language policy, cymunedau'n gyntaf, communities first, polisi iaith, cynllunio ieithyddol
Language other than English: Welsh
Publisher: Llywodraeth Cymru/Welsh Government
Funders: Llywodraeth Cymru/Welsh Government
Date of First Compliant Deposit: 30 March 2016
Last Modified: 11 Dec 2022 10:08
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/53783

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics