Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Casglu darnau'r 'jig-so' ynghyd : golwg ar gyfraniad prosiect beirniadol R.M. (Bobi) Jones i theori lenyddol Gymraeg

James, Eleri Hedd 2007. Casglu darnau'r 'jig-so' ynghyd : golwg ar gyfraniad prosiect beirniadol R.M. (Bobi) Jones i theori lenyddol Gymraeg. PhD Thesis, Cardiff University.

[thumbnail of U584964.pdf] PDF - Accepted Post-Print Version
Download (14MB)

Abstract

Yn y traethawd hwn archwilir yr honiad a wnaed gan Bobi Jones ei fod wedi bod yn gweithio ers chwarter canrif a mwy ar *brosiect' mewn beirniadaeth lenyddol. Ceisir disgrifio a dadansoddi gwahanol haenau y 'prosiect' hwn yn unigol, cyn ystyried pa mor llwyddiannus ydynt, beth yw eu cyfraniad i'r drafodaeth Gymraeg am lenyddiaeth, a sut mae'r gweddau unigol hyn yn cydweithio er creu yr hyn a eilw Bobi Jones yn 'Feirniadaeth Gyfansawdd'. Ceir wyth pennod ynghyd a chasgliadau yn y traethawd hwn, a gellid rhannu'r drafodaeth yn ddwy ran mewn gwirionedd. Mae'r pedair pennod gyntaf yn gyflwyniad i'r maes ac yn ymgais i grynhoi syniadau Bobi Jones, tra bo'r pedair olaf yn gwerthuso ei theorTau ac yn dadansoddi'r ymateb beirniadol a fu iddynt yng Nghymru. Mae'r bennod gyntaf yn un rhagymadroddol a bywgrafryddol sy'n amlinellu cefndir Bobi Jones. Tybiwyd bod pennod o'r fath yn gwbl angenrheidiol gan fod bywyd Bobi Jones a'i waith academaidd mor annatod glwm. Mae'r ail bennod yn esbonio cefhdir academaidd Bobi Jones ym myd ieithyddiaeth gan olrhain y prif ddylanwad arno, sef Gustave Guillaume. Ceir dadansoddiad o natur Tafod - yr elfen gyntaf yn theori driphlyg Bobi Jones - cyn ystyried y modd y cymhwysodd Bobi Jones y syniad hwn i faes llenyddiaeth. Yn y drydedd bennod archwilir credoau Calfinaidd Bobi Jones a'r effaith a gafodd cnewyllyn o ddiwinyddion o'r Iseldiroedd arno. Disgrifir y modd y mae'r dylanwadau athrawiaethol hyn, ynghyd a'i ddysg ym myd ieitheg, yn esgor ar yr ail wedd ar ei theori, fel y'i cyflwynir yn Beirniadaeth Gyfansawdd, sef Cymhelliad. Dyma, heb os, y fsvyaf dadleuol o theorYau Bobi Jones, a thrafodir yn y fan hon ymateb Bobi Jones i'r meddylfryd neu'r mudiad sy'n gwrthdaro'n fwyaf amlwg S'r cysyniad hwn, sef Ol-foderniaeth. Mae'r bedwaredd bennod yn cyflwyno cysyniad Mynegiant, sef y drydedd elfen yn theori driphlyg Bobi Jones am lenyddiaeth, sef y ffiuf weledol ar lenyddiaeth yr ydym yn gyfarwydd a hi. Yn ail hanner y bennod gofynnir beth yw oblygiadau ymarferol y theori driphlyg, a sut mae ei chymhwyso wrth feirniadu darn o lenyddiaeth. Ym mhennod pump, cawn edrych yn gronolegol ar y darlun cyflawn, fel petai, ac olrheinir twf y cysyniad o 'brosiect' beirniadol yng ngwaith Bobi Jones gan asesu dilysrwydd y term hwnnw, a cheisio archwilio'r ffactorau a arweiniodd Bobi Jones i geisio cyfanrwydd yn ei waith. Yn y chweched bennod canolbwyntir ar arddull unigryw Bobi Jones a llenyddoldeb ei weithiau beirniadol, gan holi i ba raddau y gellir ystyried gwaith oes Bobi Jones fel prosiect ysgrifennu creadigol, yn ogystal ag fel prosiect beirniadol. Mae'r seithfed bennod yn cynnig arolwg o'r gwahanol ymatebion a fu i gyfrolau Bobi Jones gan geisio dadlennu rhagfarnau neu ragosodiadau posibl yr adolygwyr. Yn dilyn hyn, yn yr wythfed bennod ceir enghreifftiau o'r modd y mae Bobi Jones yn ymateb i'w ddarllenwyr a'i adolygwyr. Ceir crynodeb o dair dadl gyhoeddus a fu rhwng Bobi Jones yn gyntaf a Dewi Z. Phillips, yn ail a Hywel Teifi Edwards ac yn drydydd a John Rowlands. Bwriad y bennod hon yw arddangos parodrwydd Bobi Jones i ymroi i ddadl gyhoeddus ac archwilio'r modd y mae'n ymateb pan fo'i syniadau yn cael eu herio. Cyflwynir casgliadau mewn pennod glo.

Item Type: Thesis (PhD)
Status: Unpublished
Schools: Welsh
Subjects: P Language and Literature > PB Modern European Languages > PB1001 Celtic languages and literature
ISBN: 9781303208713
Date of First Compliant Deposit: 30 March 2016
Last Modified: 12 Feb 2016 23:12
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/54583

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics