Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Goblygiadau newid ym mhroffeil oedran siaradwyr Cymraeg

Jones, Hywel ORCID: https://orcid.org/0000-0001-8308-2002 2007. Goblygiadau newid ym mhroffeil oedran siaradwyr Cymraeg. Gwerddon 1 (2) , pp. 12-34.

Full text not available from this repository.

Abstract

Trafododd gweithiau blaenorol Aitchison a Carter (1985, 1994, 2000, 2004) strwythur oed y boblogaeth oedd yn siarad Cymraeg, a’i dosbarthiad gofodol, ond cymharol gyfyngedig oedd eu dadansoddiadau, o raid, gan nad oedd y data angenrheidiol ar gael ar y pryd iddynt fynd ymhellach. Edrychodd Higgs et al. (2004) ar ganlyniadau Cyfrifiad 2001 ond ar lefel awdurdod lleol yn bennaf, eto oherwydd nad oedd data manylach ar gael ar y pryd. Un awgrym a wnaethant ar gyfer ymchwil pellach oedd dadansoddiad o bwysigrwydd addysg i’r tueddiadau. Roedd hon yn thema a ystyriwyd yn sgil Cyfrifiad 1991 gan Farrell et al. (1997). Ymdriniodd eu dadansoddiad hwy â’r cynnydd yn y Gymraeg a gofnodwyd rhwng 1981 a 1991 yn ne-ddwyrain Cymru ymhlith pobl ifainc, gan ymchwilio am berthynas rhyngddo a darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.Bwriad y papur hwn yw ymestyn y dadansoddiadau blaenorol gan edrych ar rai materion na chyffyrddwyd â hwy o’r blaen, a thrwy gymhwyso technegau gwahanol i rai o’r dadansoddiadau blaenorol. Mae hefyd am geisio amlygu cysylltiad rhwng rhai o’r mesurau a gyflwynir ac ystyriaethau mathemategol i rai o’r prosesau cymdeithasol sydd ar droed. Canolbwyntir ar yr ardaloedd lle mae dros 70 y cant o’r bobl yn gallu siarad Cymraeg - testun un o dargedau strategaeth Iaith Pawb Llywodraeth Cynulliad Cymru - wrth wneud hynny.

Item Type: Article
Date Type: Publication
Status: Published
Schools: Medicine
Publisher: Acedemaidd Cymraeg
ISSN: 1741-4261
Related URLs:
Last Modified: 05 Jan 2024 04:53
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/66892

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item