Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Dewisiadau dysgwyr: cynyddu'r niferoedd sy'n astudio trwy'r Gymraeg ac yn ddwyieithog mewn Addysg Bellach

Davies, Laura Beth 2019. Dewisiadau dysgwyr: cynyddu'r niferoedd sy'n astudio trwy'r Gymraeg ac yn ddwyieithog mewn Addysg Bellach. PhD Thesis, Cardiff University.
Item availability restricted.

[thumbnail of PhD Laura Beth Davies fersiwn ORCA.pdf]
Preview
PDF - Accepted Post-Print Version
Download (4MB) | Preview
[thumbnail of Thesis Pub form.pdf] PDF - Supplemental Material
Restricted to Repository staff only

Download (70kB)

Abstract

Mae’r gwaith hwn yn ymchwilio i ddewisiadau ieithyddol dysgwyr Addysg Bellach. Er gwaethaf y cynnydd yn nifer y dysgwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg yn y sector statudol ac, yn fwy diweddar, yn y sector Addysg Uwch, nifer fach sy’n gwneud hynny yn y sector Addysg Bellach. Astudio’r rhesymau dros y bwlch hwn a chynnig argymhellion i wella’r sefyllfa yw bwriad y traethawd hwn. Mae astudiaeth o’r fath yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac wrth ehangu cylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys y sector Addysg Bellach. Darpariaeth Gymraeg a dwyieithog mewn pynciau galwedigaethol yw’r ffocws, a’r berthynas rhwng darpariaeth a galw gan ddysgwyr. Cyfraniad gwreiddiol cyntaf y traethawd yw canfod y rhesymau pam y mae dysgwyr galwedigaethol yn astudio trwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog ar lefel Addysg Bellach, neu’n peidio â gwneud hynny. Y cyfraniad gwreiddiol pwysicaf yw’r dehongliad o sut y caiff y dewis o gyfrwng iaith darpariaeth ei gyflwyno i ddysgwyr. Dadansoddir effaith hyn ar eu dewisiadau, yng ngoleuni egwyddorion economeg ymddygiadol. Seilir yr ymchwil ar gyfweliadau lled-strwythuredig â staff mewn ysgolion a cholegau Addysg Bellach mewn pedair ardal wahanol ar draws Cymru. Cynhaliwyd hefyd grwpiau ffocws â disgyblion blwyddyn 11, a oedd yn gwneud penderfyniadau ynghylch eu Haddysg Bellach. Ymhlith y rhesymau allweddol a ganfuwyd yr oedd ffactorau economaidd, megis gwerth economaidd iaith yn y farchnad lafur a gwerth sgiliau dwyieithog. Canfuwyd hefyd ffactorau diwylliannol ac addysgol, megis canfyddiad o ddewis ‘naturiol.’ Dadleuir bod angen ymwrthod â disgwrs neoryddfrydol ‘galw’ a ‘dewis’ wrth gyflwyno cyfrwng iaith cwrs i ddysgwyr, er mwyn esgor ar y newidiadau sydd eu hangen i gynyddu nifer y dysgwyr yn astudio trwy’r Gymraeg ac yn ddwyieithog. Dadleuir dros gymhwyso egwyddorion newid ymddygiad trwy roi sylw i saernïo dewis. Un o’r prif argymhellion yw symud y pwyslais oddi ar roi’r dewis i ddysgwyr i ‘optio i mewn’ i ddarpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog. Argymhellir rhagosod dysgwyr o ysgolion Cymraeg i ddarpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog, â’r opsiwn i ‘optio allan’ os dymunant.

Item Type: Thesis (PhD)
Date Type: Submission
Status: Unpublished
Schools: Welsh
Uncontrolled Keywords: Addysg Bellach, Cymraeg, dwyieithrwydd, dewis, galw, galwedigaethol, polisi iaith addysg, economeg ymddygiadol, Further Education, Welsh, bilingualism, choice, demand, vocational, language policy in education, behavioural economics
Language other than English: Welsh
Funders: Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Date of First Compliant Deposit: 28 May 2019
Last Modified: 03 Aug 2022 01:47
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/122913

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics