Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Mwtlai wyd di? : o^l-drefedigaethedd, Cymru'r oesoedd canol a Dafydd ap Gwilym

George, Angharad Wynne 2009. Mwtlai wyd di? : o^l-drefedigaethedd, Cymru'r oesoedd canol a Dafydd ap Gwilym. PhD Thesis, Cardiff University.

[thumbnail of U584436.pdf] PDF - Accepted Post-Print Version
Download (7MB)

Abstract

Mae'r traethawd hwn yn trafod agweddau ar Gymru'r Oesoedd Canol a gwaith Dafydd ap Gwilym yng ngoleuni rhai o brif syniadau theori 61-drefedigaethol. Man cychwyn y drafodaeth yw 61-drefedigaethedd a'i berthynas a Chymru'r Oesoedd Canol. Dadansoddir perthnasedd syniadau'r theori i Gymru oes Dafydd ap Gwilym, cyn eu defhyddio'n ymarferol i gynnig darlleniadau o'r cerddi. Cais y ddwy bennod gyntaf baratoi'r ffordd ar gyfer cynnig atebion i'r problemau sy'n codi gydag 61-drefedigaethedd. Edrych y bennod gyntaf ar ddiffinio'r 61- drefedigaethol yn gyffredinol ac mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig. Trafodir perthynas benodol yr Oesoedd Canol ag 61-drefedigaethedd yn yr ail bennod. Canolbwyntia'r drydedd bennod ar feirniadaeth lenyddol a hanesyddiaeth Gymreig. Cyfeirir at y dadlau a fu ynghylch defhyddio'r theori i drafod llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig. Yn y bedwaredd bennod, ceir trafodaeth ar ddulliau ymdriniaethau beirniadol o drafod Dafydd ap Gwilym. Arwain hyn at ail ran y drafodaeth sy'n edrych ar waith Dafydd yn fwy manwl o safbwynt rhai o brif syniadau'r theori. Y Trydydd Gofod a dynwared yw ffocws y burned bennod, a dadansoddir cywydd 'Y Cleddyf (71) yng ngoleuni'r syniadau hyn. Mae'r Trydydd Gofod hefyd yn sail ar gyfer dehongli 41 Ddymuno Lladd y Gwr Eiddig' (116) a 'Trech a gais nag a geidw' (112) yn y chweched bennod. Demyddir hybridedd yn y seithfed bennod i ddehongli Trafferth mewn Tafarn'(73). Edrychir yn benodol ar y deuoliaethau diwylliannol a welir yn y gerdd hon. Yn yr wythfed bennod, manylir ar berthynas y carwr a'r ceiliog bronfraith yng ngoleuni'r hollt. Yn y dehongliad o 'Y Ceiliog Bronfraith' (49), dadansoddir perthynas y ddau o safbwynt awdurdod y naill dros y Hall. Archwilir perthynas Eiddig a'r carwr yn y nawfed bennod a defnyddir model y canol/ymylon i edrych ar ddelweddau unigol o'r cerddi, gan ganolbwyntio yn arbennig ar gymeriad Eiddig. Cyflwynir casgliadau'r ymchwil fel pennod glo.

Item Type: Thesis (PhD)
Status: Unpublished
Schools: Welsh
Subjects: D History General and Old World > D History (General) > D111 Medieval History
ISBN: 9781303191374
Date of First Compliant Deposit: 30 March 2016
Last Modified: 09 Jun 2014 09:42
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/54348

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics