Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

O’r Gymru ‘Ddu’ i’r Ddalen ‘Wen’: Darllen Amlddiwylliannedd ac Aralledd o’r Newydd yn Ffuglen Gyfoes De Cymru, er 1990

Sheppard, Lisa Caryn 2015. O’r Gymru ‘Ddu’ i’r Ddalen ‘Wen’: Darllen Amlddiwylliannedd ac Aralledd o’r Newydd yn Ffuglen Gyfoes De Cymru, er 1990. PhD Thesis, Cardiff University.
Item availability restricted.

[thumbnail of 2015sheppardlcphd.pdf]
Preview
PDF - Accepted Post-Print Version
Download (1MB) | Preview
[thumbnail of sheppardlc.pdf] PDF - Supplemental Material
Restricted to Repository staff only

Download (744kB)

Abstract

Mae’r traethawd hwn yn archwilio’r portread o amlddiwylliannedd yn ne Cymru a geir mewn ffuglen Gymraeg a Saesneg er 1990. Trwy ddefnyddio cysyniad theoretig yr ‘arall’ a damcaniaethau ôl-drefedigaethol cysylltiedig, mae’r astudiaeth hon yn ceisio osgoi pegynu rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg eu hiaith Cymru, fel y mae astudiaethau eraill ar amlddiwylliannedd Cymreig wedi’i wneud. Eir ati, yn hytrach, i drafod sut y mae’n bosib i gymeriadau o unrhyw gefndir ethnig, hiliol, crefyddol neu ieithyddol brofi aralledd oherwydd safbwyntiau goddrychol gwahanol, ac oherwydd y cyfuniad o wahanol elfennau sy’n creu hunaniaeth yr unigolyn. Trwy ystyried yr hybridedd hwn a berthyn i’r cymeriadau a’r nofelau fel ei gilydd, cynigir ffordd newydd o feddwl am amlddiwylliannedd yng Nghymru. Gesyd fframwaith theoretig trwy olrhain datblygiad cysyniadau aralledd a hybridedd yng ngwaith Hegel, de Beauvoir, Fanon, Said a Bhabha, gan fanylu ar berthnasedd eu damcaniaethau i ddadleuon am amlddiwylliannedd yng Nghymru. Ceir wedyn bedair pennod o ddadansoddi testunol. Mae’r cyntaf yn tynnu ar waith Bakhtin i drafod sut y mae awduron yn defnyddio nofelau hybrid, aml-leisiol fel gofod hybrid lle y gall cymeriadau archwilio’u haralledd. Defnyddia’r ail bennod ddamcaniaethau Bhabha am yr ystrydeb drefedigaethol a phegynau deuaidd i ystyried sut y mae aralledd a hybridedd cymeriadau’r nofelau yn herio delweddau ystrydebol a phegynol o Gymreictod. Mae’r drydedd bennod yn troi at ystrydebau am y siaradwyr Cymraeg a Saesneg a thrafodir sut y mae’r cymeriadau yn defnyddio lleoliad y dafarn er mwyn eu herio. Ystyria’r bedwaredd pennod effaith mudo a mewnfudo ar aralledd y mudwyr yng ngoleuni theorïau Said am alltudiaeth. Daw’r traethawd i gasgliad ar berthynas y portread llenyddol hwn ag amlddiwylliannedd yn y byd go iawn, gan awgrymu bod darllen testunau Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr â’i gilydd yn gallu’n annog i ddatblygu’n genedl fwy cynhwysol.

Item Type: Thesis (PhD)
Status: Unpublished
Schools: English, Communication and Philosophy
Welsh
Subjects: P Language and Literature > PB Modern European Languages > PB1001 Celtic languages and literature
P Language and Literature > PN Literature (General) > PN0080 Criticism
P Language and Literature > PR English literature
Uncontrolled Keywords: Amlddiwylliannedd; Ffuglen; Rhyddiaith; Cymru; Cymraeg; Llenyddiaeth Saesneg Cymru; Ol-drefedigaethedd; Theori Lenyddol; Beirniadaeth Lenyddol; Aralledd; Yr Arall; Llenyddiaeth Multiculturalism; Fiction; Prose; Wales; Welsh language; Welsh Writing in English; Postcolonialism; Literary Theory; Literary Criticism; Otherness; The Other; Literature
Language other than English: Welsh
Funders: Ysgoloriaethau'r Llywydd Prifysgol Caerdydd ar gyfer (Ail)Ddehongli Amlddiwylliannedd
Date of First Compliant Deposit: 30 March 2016
Last Modified: 05 Nov 2019 03:49
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/73575

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics